|








|
Codiad yr Haul (From your Slumber Arise!)
1. Haul! haul! araul ei rudd,
A gwawl boreuol dwyfol ddydd,
Mae'n dod, mae'n dod yn goch ei liw,
Shecinah sanctaidd anian yw
Yn troi trwy ymerodraeth Duw.
Mil o sêr o'i gylch
Sy'n canu megis adar mân,
Toddant yn ei wyneb,
Ac ymguddiant ar wahân,
Try'r wylaidd loer o'i wydd yn awr,
Mae'n dod, mae'n dod ar donnau'r wawr
Fel llong o'r tragwyddoldeb mawr.
2. Gwawr! gwawr! geinwawr ei grudd,
A gwawl boreol dwyfol ddydd,
Mae ei blanedau ffyddlon draw
Yn gwenu arno yn ddi-fraw,
Gan ei longyfarch ar bob llaw.
Hardd, hardd liwiau nofiant
Trwy'r cymylau dan ei draed,
Coch dân mawr yw'r Wyddfa,
Dwfr y môr a dry yn waed
Try'r wylaidd loer o'i wydd yn awr,
Mae'r haul yn dod ar donnau'r wawr
Fel llong o'r tragwyddoldeb mawr.
Celtic Webmerchant:

Wandtapijt
€ 158,27 Welsh
longbow
€ 79,20 Houten
rondschild €
66,50

|









|
|