Difyrrwch gwyr Dyfi (Sad Was the Day)

1. Difyrrwch gwyr Dyfi yr hen amser gynt
Oedd tair aur delyn chwareid gan y gwynt;
Cwynai un mewn gofid mawr
Pan chwythai'r gwynt y derw i lawr;
Ond chware yn llawen trwy'r dydd heb ball,
Tra'r coed yn dadwreiddio'n llu wnelai'r llall.

2. Y drydedd a ganai yn brudd neu yn llon,
Pa un i sicrwydd ni wyddai neb bron;
Ond daeth derwydd barfog gwyn,
Gwnaeth delyn deires o'r rhai hyn;
I ganu yng Nghymru mewn cytgord llawn,
Fe wnaeth o'r tair arall un delyn iawn.

 

 

 

 

 

 

 

Celtic Webmerchant:

               
 Wandtapijt  € 158,27      Welsh longbow  € 79,20     Houten rondschild  €
66,50

 

copyright © 2008 CelticBritain.net, Alle rechten voorbehouden.           Sitemap  Contact