Difyrrwch y Brenin (On This Day) 

1. Beth mae'r brenin yn fwynhau
Yn fwy neu lai na ni ein dau?
Pobol ddistaw ar bob awr
Yn ei senedd-dy gâr yn fawr.
Pobol dda am dalu treth,
Ei galon gâr uwchlaw pob peth;
Byddin iawn a llyngwses gref,
Hyn ydyw ei ddifyrrwch ef.

2. Hoffa cerddor gân a thant,
Ond hoffi mêl a wna ei blant;
Ceidw un ei aur tra gall,
Ond hoffi rhoddi wna y llall.
Fel yr ydym ffrindiau ffri,
Os bodlon pawb, wel bodlon fi;
Caed y brenin, fel pob dyn,
Ddifyrrwch yn ei ffordd ei hun.

 

 

 

 

Celtic Webmerchant:

               
 Wandtapijt  € 158,27      Welsh longbow  € 79,20     Houten rondschild  €
66,50

 

 

copyright © 2008 CelticBritain.net, Alle rechten voorbehouden.           Sitemap  Contact