|
Eryri Wen (O Mountain White )
1. Eryri Wen, frenhines bur,
Daearol ferch y ne';
Mewn awyr las ac wybren glir
Ac yn dy sanctaidd le.
Yn fab y mynydd hwn y'm gwnaed
I dy ofni erioed;
Mae tân yn rhedeg trwy fy ngwaed
Pan safaf wrth dy droed.
2. O'th gylch mae cestyll cedyrn mawr
Ym mynd yn friwsion mân;
O'th gylch mae twrf tymhestloedd gawr
Yn rhuo'u gaeaf gân.
Ond dyma gastell gododd Duw
Ag eira ar ei ben;
Boed annibyniaeth Cymru fyw
Am byth, Eryri Wen.
Celtic Webmerchant:

Wandtapijt
€ 158,27 Keltische
hanger
€ 20,70
Keltische bijl €
8,-
 |