Fair Country 

 1. Medd Merch Glyndwr mewn balch sarhad
'Mae Iarll de Grey yn dod fy nhad;
Os daw yn wir i'n hardal ni,
Glanhaed ei wn a doed â'i gi.
Ysgyfarnogod gannoedd geir,
Ac ar y Berwyn fil o ieir;
Caiff fwyd i'w farch, ei gi ac e,
O doed fy arglwydd Iarll de Grey.'

2. 'Fe godir pontydd dros y ffyrdd
O flodau teg a changau gwyrdd;
I blasau'r wlad mewn rhwysg yr awn,
A'r ffasiwn ddiweddaraf gawn.
Y dydd, cawn ddangos golygfeydd,
Y nos, cawn fiwsig a dawnsfeydd,
A'r boneddesau gydag e,
O doed fy arglwydd Iarll de Grey.'

3. 'Os blys am dafell fach o'r wlad
Sydd arno ef, aed at fy nhad;
Os cynnig am fy llaw, paham
Na f'ai yn gofyn i fy mam?
Os ceisia un o'r pethau hyn,
Yfory nesaf doed os myn
I gael fy nghleddyf yn eu lle,
O dowch, fy arglwydd Iarll de Grey.'

 

Celtic Webmerchant:

               
 Wandtapijt  € 158,27      Keltische hanger  20,70      Keltische bijl  € 8,-

 

copyright © 2008 CelticBritain.net, Alle rechten voorbehouden.           Sitemap  Contact