Ffanni Blodau'r Ffair (My Lady is More Fair) 

1. O ffanni, blodau'r ffair,
Ble mae mor hardd ei phryd?
Mae'n cyrraedd cymaint gair,
Mae'n ben ar ddeuparth byd!
Brydyddion mwynion maith,
Hyd eitha'n hiaith a'i mod,
Nid cu nacáu, ond llon neshau
I ganu'n glau ei chlod!

2. Fe ddychwel tonnau Nedd
I'r dref o'r cefnfor draw,
Llifeiriant garwa'i wedd
I'r Fan uwch dre a ddaw,
Gorchuddia'r tonnau crych
Ei chopa uwch yr aer
Cyn oera'm serch at feinir ferch,
Fy Ffanni blodau'r ffair!

3. Ti, awel Ebrill gwiw
Sy'n deffro'r meysydd mwy
n A'r blodau hardda'u lliw
Sy'n gwisgo brig y llwyn,
Dwg di'm ochenaid brudd
Dan gerydd ysgog air
Yn dyner dyst yn glir i glust
Fy Ffani blodau'r ffair!

Celtic Webmerchant:

               
 Wandtapijt  € 158,27      Keltische hanger  20,70      Keltische bijl  € 8,-

 

 

copyright © 2008 CelticBritain.net, Alle rechten voorbehouden.           Sitemap  Contact